Daliwr Golau lliwiau’r Enfys

£20.00

Daliwr Golau lliwiau’r Enfys. Nifer Cyfyngedig.

Rhan o’r arian o werthiant y cynnyrch yma yn mynd tuag at elusenau NHS yn ogystal a elusenau eraill gan fod yr enfys yn symbol i lawer.

Rwyn bwriadu cadw y cynnych yma fel cynnyrch codi arian i elusenau gwahanol drwy weddill y flwyddyn gyda cyfran o bob archeb yn mynd i elusen.

Erbyn hyn rwyf wedi rhoi £720 i elusen NHS Awyr Las, MIND  a Rainbow Trust, Cancer Research, Dementia UK

Creuwyd y daliwr golau yma i gofio rhai a gollwyd, i fod yn ddiolchgar i’r sawl sydd yn cwffio y frwydyr, ag i obeithio am y dyfodol.

Category: Tag:

Description

Yn ystod y ‘lockdown’ rwyf wedi teimlo ar goll. Rwyf wedi poeni a pryderu lot, ag o bosib wedi teimlo pob emosiwn o liw ar yr enfys.

Roeddwn eisiau creu rhywbeth creadigol, lliwgar a positif fel fy ngyfraniad i fel petai.

Dim ond un wnesi greu i ddechrau, iw oleuo yn amser fy hun i gofio, i fod yn ddiolchgar ag myfyrio. Nid oeddwn yn disgwyl eraill i eisiau prynu un, felly rwyf wedi creu nifer cyfyngedig ohonynt i’r sawl sydd eisiau prynu un a bydd cyfran o’r arian yn mynd tuag at  elusenau.