{"id":632,"date":"2016-02-19T16:19:58","date_gmt":"2016-02-19T16:19:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/?p=632"},"modified":"2016-02-19T16:19:58","modified_gmt":"2016-02-19T16:19:58","slug":"comisiwn-bwrdd-coffi-ty-newydd-llanystumdwy","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/2016\/02\/19\/comisiwn-bwrdd-coffi-ty-newydd-llanystumdwy\/","title":{"rendered":"Comisiwn bwrdd coffi Ty Newydd, LLanystumdwy"},"content":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar cefais fy newis i greu bwrdd coffi unigryw ar gyfer llyfrgell Glyn Jones ynNh\u0177 Newydd, LLanystumdwy.<\/p>\n<p>Canolfan Lenyddiaeth yw T\u0177 Newydd bellach, ond bu hefyd yn gartref i\u2019r Prif Weinidog adeg y rhyfel mawr, sef David Lloyd George. Yn \u00f4l pob s\u00f4n, yn y llyfrgell yma treuliodd Lloyd George ei ddyddiau olaf yn edrych allan o\u2019r ffenestr gron ar Fae Ceredigion.<\/p>\n<p>Yn y br\u00eeff \u00a0roedd angen creu bwrdd boffi unigryw \u00a0\u00a0oedd yn ymateb i gerddi Gillian Clarke \u2018T\u0177 Newydd\u2019 a Guto Dafydd \u2018Hiraeth am D\u0177 Newydd\u2019.<\/p>\n<p>Yn fy syniad \u00a0buasai\u2019r dyluniad yn cyfuno\u2019r ddwy gerdd ac yn gweddu gyda\u2019i leoliad. Mae\u2019r ddwy gerdd yn disgrifio T\u0177 Newydd fel lle arbennig i ysgrifennwyr, lle sydd yn galluogi\u2019r geiriau lifo ar dudalen, \u00a0ble mae hanesion yn cael eu darganfod o fewn distawrwydd y muriau gwyn. Mae\u2019n le all ysgrifennwyr uniaethu a\u2019u \u00a0gilydd.<\/p>\n<p>Bydd cwpledi o gerddi y ddau fardd yn cael eu ysgythru ar arwyneb pren a fydd yn cael ei fewn osod i arwyneb y bwrdd coffi i greu delwedd o eiriau`n llifo, neu siwrne wrth i gerdd Guto Dafydd s\u00f4n am deithio i D\u0177 Newydd a Gillian Clarke drafod geiriau yn llifo a storiau yn cael eu darganfod. Bydd y preniau fel llif o gerddoriaeth neu lwybr sydd yn rhedeg ar draws canol y bwrdd.<\/p>\n<p>Mae\u2019r bwrdd wedi ei greu o bren Ffawydd, gan fod llawer o goed Ffawydd wedi eu plannu ar hyd y safle dan orchymun Lloyd George.<\/p>\n<p>Rheswm arall dros ddefnyddio pren Ffawydd yw ei fod yn bren eithaf golau, a bydd yn symbylu adeilad T\u0177 Newydd, tra bo`r disgiau gydag \u00a0ysgrifen arno wedi ei greu o bren coch Sapele, i symbylu calon ac \u00a0awyrgylch unigryw y lle sy\u2019n treiddio drwy\u2019r muriau ac enaid y sawl a fu yno.<\/p>\n<p>Mae\u2019r siap a ffurf y bwrdd wedi ei greu yn grwn i gyd fynd gyda\u2019i leoliad yn y ffenestr grwn, ac mae\u2019r edau lliw \u2018Teal\u2019 ar waelod y coesau yno i gyfeirio at liw nodweddiadol ffenestri\u2019r \u00a0adeilad yn nyluniad Clough\u00a0 Williams Ellis.<\/p>\n<p>Hwn yw\u2019r comisiwn mwyaf imi ei greu hyd yn hyn, ac mae wedi bod yr un mwyaf \u00a0heriol\u00a0 iw greu, ond rwyf wedi mwynhau a dysgu llawer iawn o\u2019r profiad.\u00a0 Mae\u2019n fraint cael creu dyluniad a fu\u2019n rhan o hanes y t\u0177 am flynyddoedd i ddod.\u00a0 Bum yn gweithio am gyfnod dros haf 2014 yn Amgueddfa Lloyd George, ac wedi dod i ddysgu llawer am y gwleidydd hynod yma.\u00a0 Mae\u2019n anodd credu bydd fy ngwaith yn cael ei osod yn yr un ystafell \u00a0y bu i \u00a0un o wleidyddion gorau Prydain yn eistedd yno`n edmygu`r olygfa drwy`r ffenestr .<\/p>\n<p>Rwyn gobeithio y caiff ysgrifennwyr T\u0177 Newydd \u00a0gymaint o \u00a0fwynhad drwy ddefnyddio\u2019r bwrdd ac y gefais i o\u2019i greu.\u00a0 Nid oeddwn erioed wedi gweithio ar gynnyrch mor fawr o\u2019r blaen ac fe ddysgais lawer wrth ei greu.\u00a0 Roeddwn ddigon ffodus i gael cymorth fy Yncl sy\u2019n saer coed o fri, gyda blynyddoedd o brofiad, i\u2019m helpu i roi\u2019r bwrdd at ei gilydd. Yn anffodus \u00a0nid oedd fy ngweithdy bychan gartref ddim digon mawr na`r offer priodol gennyf i berfformio rhai o\u2019r prosesau. Rwy`n ddiolchgar iawn am gymorth a dderbynais gan fy Yncl. Wrth i\u2019r bwrdd ddatblygu, roedd pwysau`r bwrdd yn trymhau!<\/p>\n<p>Gwelir isod gerddi Gillian Clarke a Guto Dafydd, gyda lluniau o\u2019r broses o greu y bwrdd yn dilyn.<\/p>\n<p><strong>T\u0177 Newydd \u2013 Gillian Clarke<\/strong><\/p>\n<p>Before we came, the house was a shell<\/p>\n<p>with the sea-winds in it. Sometimes now,<\/p>\n<p>gathered in silence here at the table<\/p>\n<p>under the beams, where long ago<\/p>\n<p>hens clucked, and clogs and buckets clattered,<\/p>\n<p>your pen might suddenly touch a wire<\/p>\n<p>in your mind, and an image fire<\/p>\n<p>the dark, and nothing has ever mattered<\/p>\n<p>as much as this connection between mind<\/p>\n<p>and pen, lines unreeling from your human hand,<\/p>\n<p>your story found, and told, and heard,<\/p>\n<p>started from silence by a single word,<\/p>\n<p>the truth, word-music, the real thing.<\/p>\n<p>Let it sing.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><strong>Hiraeth am D\u0177 Newydd Guto Dafydd<\/strong><\/p>\n<p>Nos Fawrth yn gur pen o law,<\/p>\n<p>weipars yn gwrthod ymlid y diflastod<\/p>\n<p>a\u2019r clociau \u2018di troi\u2019r flwyddyn yn wyll;<\/p>\n<p>yr awen yn pydru fel\u00a0 talp o hydref,<\/p>\n<p>dail tamp yn blocio \u2018mhen<\/p>\n<p>a realiti\u2019n glynu\u2019n bowdwr yn fy ngwddf<\/p>\n<p>nes methu llyncu:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>af yno<\/p>\n<p>i\u2019r T\u0177 Newydd yn fy enaid<\/p>\n<p>at y rhai sy\u2019n meddwl fel fi,<\/p>\n<p>i gladdu gwleddoedd yn s\u0175n<\/p>\n<p>symffon\u00efau\u2019n cyd-ddallt<\/p>\n<p>a cherdded drwy goed tywyll<\/p>\n<p>dan awyr amhosib o s\u00ear.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Pan fydd galar yn brifo\u2019n slei<\/p>\n<p>fel pinnau mewn panad<\/p>\n<p>cawn gamu I\u2019r golau yn y muriau gwyn,<\/p>\n<p>a gorffwys<\/p>\n<p>yn llyfrgell ein profiad a\u2019n dyheadau;<\/p>\n<p>cadw gwylnos yng nghysgodion canhwyllau;<\/p>\n<p>agor potel newydd toc \u2018di tri<\/p>\n<p>a thollti dealltwriaeth I wydrau\u2019n gilydd;<\/p>\n<p>meddyliau\u2019n chware mig cyn cynganeddu.<\/p>\n<p>Af yno yn fy enaid.<\/p>\n<p>Af yno.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Yn ddiweddar cefais fy newis i greu bwrdd coffi unigryw ar gyfer llyfrgell Glyn Jones ynNh\u0177 Newydd, LLanystumdwy. Canolfan Lenyddiaeth yw T\u0177 Newydd bellach, ond bu hefyd yn gartref i\u2019r Prif Weinidog adeg y rhyfel mawr, sef David Lloyd George. Yn \u00f4l pob s\u00f4n, yn y llyfrgell yma treuliodd Lloyd George ei ddyddiau olaf yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":3,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[51],"tags":[],"class_list":["post-632","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorized-cy"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/632","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/3"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=632"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/632\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=632"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=632"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.miriamjones.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=632"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}