Cefais yr anrhydedd o gael creu 46 tlws ar gyfer Noson Wobrwyo Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor.
Fe wnes durnio 46 disg allan o bren Ffawydd. Yna, ysgythrais pob disg â laser a mewnosod edau glas tywyll o amgylch pob disg, er mwyn ychwangeu lliw y Coleg i’r tlysau.
Yna, creais y standiau ar gyfer pob tlws allan o’r pren gwastraff.
Mwynheais y broses o greu’r tlysau hyn yn fawr iawn, ac cafwyd adborth ardderchog gan staff a myfyrwyr y Coleg.


![]upside down](https://www.miriamjones.co.uk/wp-content/uploads/2016/07/upside-down-225x300.jpg)


