Ynghylch

Yn fwy na dim Crefftwraig ydwyf. Rwyn mwynhau creu gwrthrychau prydferth ac addurniadol sydd wedi cael eu hysbrydoli gan dirwedd a gwrthrychau o amgylch fy nghartref ar fferm fechan yn Ngogledd Cymru sydd wedi ei leoli yn agos at draeth Porth Neigwl ym Mhen Llyn.

Cymraeg yw fy mamiaith, ac rwyn cyfuno iaith a cherddi yn fy ngwaith drwy ysgythru ar arwyneb y pren gyda laser.

Yn ystod fy nghyfnod ym Manceinion yn astudio 3D design a MA Design yn Manchester School of Art, darganfyddais faint o ddylanwad cryf mae fy nghefndir Cymreig yn ei gael ar fy ngwaith, a`r pwysigrwydd ei fod yn rhan o’m hunaniaeth.

Fi yw’r pedwerydd cenhedlaeth o fewn fy nheulu i weithio gyda coed, ar unig ferch. Er imi arbrofi gyda defnyddiau eraill i  chwilio am ysbrydoliaeth roeddwn wastad yn dod yn ol i dylanwadau Cymreig yn fy ngwaith pren.

Mae ffermio yn elfen bwysig sydd yn dylanwadu fy ngwaith. Rwyn cymeryd ysbrydoliaeth o linynau bêls lliwgar wedi ei glymu o amgylch postiau a giatiau , mae’r ysbrydoliaeth yma yn cael ei ddynwared yn fy ngwaith drwy glymu edau lliw o amglych y preniau fel addurn.

Mae llawer o fy  ngwaith wedi ei greu o bren sydd wedi ei adfer, neu gweddillion o brosiectau eraill sydd yn cael eu troi i wrthrychau addurniadol gydag  ystyr a phwrpas iddo unwaith yn rhagor. Does dim yn cael ei wastraffu yn y broses o greu’r gwaith.  Mae’r llwch lli’n cael ei roi o dan yr ieir ar y fferm.

Mae pob darn o waith yn unigryw a chyda’i  stori ei hun tu ôl iddo, gwnewch yn siwr eich bod yn darllen pob disgrifiad i gael deall y stori ar ysbrydoliaeth.

Mae fy ngwaith yn syml, yn gyfoes, addurniadol ac yn llyfn i’w gyffwrdd. Fy mwriad yw dathlu prydferthwch y pren drwy greu ffurfiau syml ac ychwanegu mymryn o liw i ddenu’r llygaid.

Cychwynodd y busnas bach yn garij fy rhieni, a bellach mae wedi ehangu.  Fe wnesi a fy nhad adeiladu gweithdy newydd yn 2018, ag mae bellach yn weithdy arbennig iawn i weithio ynddo.

fi-efor-laser

 

dsc00783

160620133585

160620133588