Posted on

Edrych yn ol dros comisiynau 2019. Anrhegion personol i briodasau, ymddeol a gwobrau./ looking back over Commissions created in 2019. Personalised gifts such as weddings, retirement gifts and trophies.

Rwyn cael pleser mawr o greu comisiynau unigryw a personol i achlysuron arbennig. Rwyf wedi derbyn gwaith diddorol eleni.

I really enjoy doing commissions for special occasions.  I have had very interesting jobs this year varying from trophies, to Welsh wedding gifts to retirement gifts.

Y broses / The process.

Priodasau- rwyn cael llawer o comisiynau priodasau diddorol lle byddaf yn trafod gyda’r cwsmer pa eiriau, neges neu gerdd a hoffem ar ymyl y bowlen. Bydd rhai yn dewis enwau y priodferch a priodfab a dyddiad, eraill yn hoffi cael rhan o gerdd hefyd efo’r enw a dyddiad, a eraill ond eisiau cerdd ar ymyl y bowlen gyda enwau a dyddiad o dan y bowlen os yw ddigon mawr.

Weddings- I get many interesting wedding commissions where I discuss with the customer what they would like written on the bowls. Some like to have the name of the bride and groom and date on the bowls, others like to have part of a poem and then the bride and groom’s names and date, and others like to have just a poem on the bowls with the name of bride and groom and date underneath the bowl.

Byddaf wedyn yn creu sampl o’r ysgrifen debyg i’r lluniau isod i yrru i’r cwsmer i weld os ydyw yn iawn.

I then will create a mock up of their requests similar to this image below.

Byddaf hefyd yn gyrru lluniau o bowlenni sydd gynai mewn stoc i’r cwsmer cael dewis, maint, lliw a math o bren.

I will also send images of bowls I have in stock in the customer’s price range, and type or wood colour.

Dyma rhai o’r powlenni rwyf wedi creu eleni…gyda edau lliw yn mynd gyda lliwiau y briodas neu cartref y cwpl.

These are only some of the bowls I have created this year…with thread colours chosen to go with the wedding’s colours, bridal colours, or their homes etc.

Dyma bowlenni hyfryd a wnes fel anrhegion ymddeol i athrawon Ysgol Botwnnog gyda cerdd/can yr Ysgol wedi ysgythru ar ymyl y bowlen.

These are some lovely bowls I have made as retirement gifts for teachers in Secondary School in my local area, with the schools poem etched on the rim of the bowl.

Dyma engreifftiau o wobrau a wnes eleni ar gyfer seremoni wobrywo Coleg Meirion Dwyfor a treialon Cwn Defaid Abersoch.

These are examples of the trophies I have made this year. Sheepdog trials and A level college trophies to reward excellence.

Os oes gennych chi achlysur arbennig fel priodas, penblwydd neu genedigaeth ag yn chwilio am angrheg unigryw a personol, cysylltwch a mi- miriam.jones66@yahoo.co.uk

If you have any special occasions coming up or weddings or events do not hesitate to contact me to discuss your requirements.  miriam.jones66@yahoo.co.uk

 

 

Posted on

Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth yn 2016! Edrych ymlaen yn ofnadwy i 2017

Diolch yn fawr iawn i bawb am eich cefnogaeth yn 2016, mae wedi bod yn flwyddyn hynod lwyddianus a chyffrous imi gyda llawer o uchafbwyntiau.

Dyma gasgliad o luniau yn dangos rhai o’r uchafbwyntiau yn 2016 ac ychydig o newyddion am beth sydd gennyf ar y gweill yn 2017.

 

Creu bwrdd coffi unigryw i Ty Newydd, Llanystumdwy. Roedd hwn yn sialens a hanner ond yn werth pob eiliad. Dysgais lawer o’r profiad ac `rwyf yn edrych ymlaen yn ofnadwy i weithio gyda Ty Newydd eto yn 2017 ar gomisiwn arall lle byddaf yn cyd weithio gyda Joe Roberts y Gof talentog ar gerflun mawr. Gwyliwch allan am fwy o hanes!

Tlysau di ri! Roedd llawr y gweithdy bach yn fôr o dlysau ym Mehefin ar gyfer Seremoni Wobrwyo Coleg Meirion Dwyfor. Roedd hi’n fraint cael y cyfle i greu 46 tlws arbennig iddynt, ac o sgil hyn fe wnes ambell dlws arall ar gyfer digwyddiadau chwaraeon lleol.

FFAIR GREFFTAU

Wedi bod wrthi “flat out”  efo amryw o ffeiriau yn 2016. Roeddwn ddigon ffodus i gael fy newis ar gyfer ffair grefftau mawr ‘Great Northern Contemporary Craft Fair’Manceinion , ‘Gwnaed a Llaw’ Caerdydd, ‘Ffair fwyd a chrefft’ Portmeirion ac hefyd arddangos yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf.

Rwyf wedi mwynhau pob un ohonynt, er mor flinedig oeddwn ar eu holau! Roeddent yn llwyddiant mawr imi ac rwyf wedi creu llawer o ffrindiau newydd, cysylltiadau a chwsmeriaid newydd. Edrych mlaen yn barod i’w gwneud eto yn 2017!

Fel canlyniad o arddangos yn ‘Great Northern’ dwi bellach wedi fy newis i gael bod ar Cyfeiriadur Crefftwyr  ‘Craft Council’ UK. Dyma`r  linc ar gyfer fy nhudalen arno- http://www.craftscouncil.org.uk/directory/maker/miriam-jones/

Mae gennyf lawer o arddangosfeydd yn dod fynny yn 2017.

Y cyntaf o`r rhain fydd arddangosfa ‘GWADDOL’ gyda fy nghyn athrawes Gelf Elin Huws ym Mhlas Glyn y Weddw. Mi fyddaf yn creu gwaith newydd ar gyfer y sioe hwn fel gwrogaeth i’w gwaith. Dyma linc ar gyfer yr arddangosfa a manylion pellach am yr arddangosfa.- https://www.oriel.org.uk/en/events/2016/imprint

Dyma gip olwg ar yr hyn y byddaf yn ei greu ar gyfer yr arddangosfa-

 

Hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb ohonoch a gobeithio bydd 2017 yn un werth chweil!

Posted on

Edrych yn ol ar fy amser yn sioe Great Northern Contemporary Craft Fair dros y penwythnos.

Oedd hi yn braf bod nol yn Manceinion , y ddinas lle fues i yn byw am 5 mlynedd yn astudio 3D Design a MA Design dros y penwythnos ar gyfer y sioe grefftau.

Welais llawer o wynebau cyfarwydd a dal fynny hefo llawer o hen ffrindiau.

Rwyf hefyd wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd, ag wedi mwynhau yn enfawr sgwrsho hefo crefftwyr eraill.

Roedd hi’n braf clywed ymateb y cyhoedd i’m ngwaith, a cael trafod hefo cwsmeriaid a ymwelwyr. Diolch i bawb a ddaeth i stondin 108, fe wneathoch chi wneud fy mhenwythnos yn hwylus a gwerth chweil.

Dwi bellach adra, heb lawar o lais ag yn trio dal fynny efo yr rhestr hyd braich o bethau sydd genai i wneud eto!

Sioe grefftau nesa fydd ‘Gwnaed a Llaw’ , Caerdydd Hydref 28-30. Os ydych yn y cyffiniau dewch draw im ngweld i yn fano hefyd!

img_17221

Posted on

Newyddion a digwyddiadau

Dwi’n brysur iawn  yn paratoi ar gyfer dwy sioe grefftau, sef Great Northern Contemporary Craft Fair sydd penwythnos nesaf 6-9ed o Hydref, ag mi ddaw  Gwnaed a llaw yn Gaerdydd yn sydyn iawn ar ei ol rhwng 28-30ed o Hydref.

Rwyf wrth fy modd efo fy siart lliwiau, mae’n dangos yr holl liwiau edau sydd ar gael genai i help chi efo eich archebion.

Gwyliwch allan ar fy ngwefan am gynhyrchion newydd fydd yn cael ei bostio ar y wefan, Facebook a Trydar yn y dyddiau nesaf. Mae pob cynnyrch yn unigryw a lliwgar. #gnccf #mbh

colours lliwiau

Posted on

Blas ar yr hyn sydd wedi bod yn gadael fy ngweithdy yn ddiweddar….

Ar ol arddangos fy ngwaith am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod leni yn Y Fenni, rwyf wedi bod yn brysur iawn gyda archebion.

Gwelir isod engreifftiau o’r math o anrhegion sydd wedi bod yn gadal fy ngweithdy yn ddiweddar, o anrhegion priodas i Pen Blwydd.

Cofiwch gysylltu a mi os oes gennych achlysur arbennig yn dod fynny, ag gyda neges bersonol neu gerdd arbennig i’w rhoi ar anrheg.

Neu os ydych methu yn glir a meddwl am sut fath o anrheg i gael i’r teulu a ffrindiau ar gyfer y Nadolig, dwi’n siwr y cewch syniadau o’r wefan.

 

Mae’r lliw TEAL wedi bod yn liw poblogaidd iawn dros y misoedd diwethaf…

dgf

bowl

ceri

dau

powlen efo cerdd

 

Posted on

Creu tlysau ar gyfer Noson Wobrwyo Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor

Cefais yr anrhydedd o gael creu 46 tlws ar gyfer Noson Wobrwyo Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor.

Fe wnes  durnio 46 disg allan o bren Ffawydd. Yna, ysgythrais pob disg â laser a mewnosod edau glas tywyll o amgylch pob disg, er mwyn ychwangeu lliw y Coleg i’r tlysau.

Yna, creais y standiau ar gyfer pob tlws allan o’r pren gwastraff.

Mwynheais y broses o greu’r tlysau hyn yn fawr iawn, ac cafwyd adborth ardderchog gan staff a myfyrwyr y Coleg.

 

20160627_161512

]upside down

all

trophy awards

trophy

 

Posted on

Y broses o greu bwrdd coffi Ty Newydd, LLanystumdwy

design

Llinell o gerdd Guto Dafydd wedi ei ysgrifenu, yn barod i’w ysgythru ar bren.

table prototype

Prototeip o’r bwrdd.

table leg

coes y bwrdd yn cael ei durnio.

four table legs

Coesau’r bwrdd wedi ei gwbwlhau.

table top

top y bwrdd wedi ei ludo a’i dorri.

table

torri tyllau yn y bwrdd ar gyfer y coesau.

layout

gosod y disgiau allan er mwyn torri tyllau.

drilling

tyllu’r tyllau.

holes

laser etching

ysgythru geiriau o’r cerddi ar y pren

20160124_201052

20160129_084644

y coesau yn eu lle.

slotting disks

gosod y disgiau yn y tyllau a’i gludo.

20160129_113003

y disgiau yn eu lle, ar edau ar wylod y coesau.

coasters

mi wnes i ‘coasters’ i gyd fynd gyda’r bwrdd allan o ddarnau dros ben.

disks layed out

 

table

Y bwrdd wedi ei osod yn ei le yn llyfrgell Glyn Jones yn Ty Newydd.

table

table

 

 

 

Posted on

Comisiwn bwrdd coffi Ty Newydd, LLanystumdwy

Yn ddiweddar cefais fy newis i greu bwrdd coffi unigryw ar gyfer llyfrgell Glyn Jones ynNhŷ Newydd, LLanystumdwy.

Canolfan Lenyddiaeth yw Tŷ Newydd bellach, ond bu hefyd yn gartref i’r Prif Weinidog adeg y rhyfel mawr, sef David Lloyd George. Yn ôl pob sôn, yn y llyfrgell yma treuliodd Lloyd George ei ddyddiau olaf yn edrych allan o’r ffenestr gron ar Fae Ceredigion.

Yn y brîff  roedd angen creu bwrdd boffi unigryw   oedd yn ymateb i gerddi Gillian Clarke ‘Tŷ Newydd’ a Guto Dafydd ‘Hiraeth am Dŷ Newydd’.

Yn fy syniad  buasai’r dyluniad yn cyfuno’r ddwy gerdd ac yn gweddu gyda’i leoliad. Mae’r ddwy gerdd yn disgrifio Tŷ Newydd fel lle arbennig i ysgrifennwyr, lle sydd yn galluogi’r geiriau lifo ar dudalen,  ble mae hanesion yn cael eu darganfod o fewn distawrwydd y muriau gwyn. Mae’n le all ysgrifennwyr uniaethu a’u  gilydd.

Bydd cwpledi o gerddi y ddau fardd yn cael eu ysgythru ar arwyneb pren a fydd yn cael ei fewn osod i arwyneb y bwrdd coffi i greu delwedd o eiriau`n llifo, neu siwrne wrth i gerdd Guto Dafydd sôn am deithio i Dŷ Newydd a Gillian Clarke drafod geiriau yn llifo a storiau yn cael eu darganfod. Bydd y preniau fel llif o gerddoriaeth neu lwybr sydd yn rhedeg ar draws canol y bwrdd.

Mae’r bwrdd wedi ei greu o bren Ffawydd, gan fod llawer o goed Ffawydd wedi eu plannu ar hyd y safle dan orchymun Lloyd George.

Rheswm arall dros ddefnyddio pren Ffawydd yw ei fod yn bren eithaf golau, a bydd yn symbylu adeilad Tŷ Newydd, tra bo`r disgiau gydag  ysgrifen arno wedi ei greu o bren coch Sapele, i symbylu calon ac  awyrgylch unigryw y lle sy’n treiddio drwy’r muriau ac enaid y sawl a fu yno.

Mae’r siap a ffurf y bwrdd wedi ei greu yn grwn i gyd fynd gyda’i leoliad yn y ffenestr grwn, ac mae’r edau lliw ‘Teal’ ar waelod y coesau yno i gyfeirio at liw nodweddiadol ffenestri’r  adeilad yn nyluniad Clough  Williams Ellis.

Hwn yw’r comisiwn mwyaf imi ei greu hyd yn hyn, ac mae wedi bod yr un mwyaf  heriol  iw greu, ond rwyf wedi mwynhau a dysgu llawer iawn o’r profiad.  Mae’n fraint cael creu dyluniad a fu’n rhan o hanes y tŷ am flynyddoedd i ddod.  Bum yn gweithio am gyfnod dros haf 2014 yn Amgueddfa Lloyd George, ac wedi dod i ddysgu llawer am y gwleidydd hynod yma.  Mae’n anodd credu bydd fy ngwaith yn cael ei osod yn yr un ystafell  y bu i  un o wleidyddion gorau Prydain yn eistedd yno`n edmygu`r olygfa drwy`r ffenestr .

Rwyn gobeithio y caiff ysgrifennwyr Tŷ Newydd  gymaint o  fwynhad drwy ddefnyddio’r bwrdd ac y gefais i o’i greu.  Nid oeddwn erioed wedi gweithio ar gynnyrch mor fawr o’r blaen ac fe ddysgais lawer wrth ei greu.  Roeddwn ddigon ffodus i gael cymorth fy Yncl sy’n saer coed o fri, gyda blynyddoedd o brofiad, i’m helpu i roi’r bwrdd at ei gilydd. Yn anffodus  nid oedd fy ngweithdy bychan gartref ddim digon mawr na`r offer priodol gennyf i berfformio rhai o’r prosesau. Rwy`n ddiolchgar iawn am gymorth a dderbynais gan fy Yncl. Wrth i’r bwrdd ddatblygu, roedd pwysau`r bwrdd yn trymhau!

Gwelir isod gerddi Gillian Clarke a Guto Dafydd, gyda lluniau o’r broses o greu y bwrdd yn dilyn.

Tŷ Newydd – Gillian Clarke

Before we came, the house was a shell

with the sea-winds in it. Sometimes now,

gathered in silence here at the table

under the beams, where long ago

hens clucked, and clogs and buckets clattered,

your pen might suddenly touch a wire

in your mind, and an image fire

the dark, and nothing has ever mattered

as much as this connection between mind

and pen, lines unreeling from your human hand,

your story found, and told, and heard,

started from silence by a single word,

the truth, word-music, the real thing.

Let it sing.

 

Hiraeth am Dŷ Newydd Guto Dafydd

Nos Fawrth yn gur pen o law,

weipars yn gwrthod ymlid y diflastod

a’r clociau ‘di troi’r flwyddyn yn wyll;

yr awen yn pydru fel  talp o hydref,

dail tamp yn blocio ‘mhen

a realiti’n glynu’n bowdwr yn fy ngwddf

nes methu llyncu:

 

af yno

i’r Tŷ Newydd yn fy enaid

at y rhai sy’n meddwl fel fi,

i gladdu gwleddoedd yn sŵn

symffonïau’n cyd-ddallt

a cherdded drwy goed tywyll

dan awyr amhosib o sêr.

 

Pan fydd galar yn brifo’n slei

fel pinnau mewn panad

cawn gamu I’r golau yn y muriau gwyn,

a gorffwys

yn llyfrgell ein profiad a’n dyheadau;

cadw gwylnos yng nghysgodion canhwyllau;

agor potel newydd toc ‘di tri

a thollti dealltwriaeth I wydrau’n gilydd;

meddyliau’n chware mig cyn cynganeddu.

Af yno yn fy enaid.

Af yno.

 

 

Posted on

Dechrau prysur iawn i 2016. Comisiwn, Liberty yn Llundain a cyfarfod gyda Merched y Wawr.

Yn ddiweddar cefais wahoddiad i gyflwyno fy ngwaith o flaen panel o arbennigwyr siop Liberty yn Llundain.

Roedd hi’n brofiad bythgofiadwy. Mae’r siop ei hun yn hynod ddiddorol ag unigryw. Buodd Mam a minnau yn ciwio am 7 awr cyn cael gweld un o’r arbennigwyr. Roedd dros 600 o ddylunwyr a crefftwyr yno ar y diwrnod. Buodd Mam a fi yn sgwrsho gyda llawer o grefftwyr dawnus yn y ciw i basho’r amser.

Pan ddaeth yr amser imi gyflwyno fy ngwaith, cymerais yn ganiataol na fuasai dim gobaith o blesho’r arbenigwyr gyda fy ngynnyrch. Roeddwn yn siarad fel tren, ag yn hollol ymwybodol o’r pedair munud yn gwibio heibio wrth imi drio egluro fy ngwaith, fy’n ysbrydoliaeth ag fy musnes i’r arbennigwyr.

Eisteddais yno yn parablu tra bu’r arbennigwyr yn stydio’r cynnyrch yn ofalus. Toeddwn ddim yn disgwyl clywed adborth mor bositif am fy ngwaith, gan ddweud ei fod yn brydferth ag wedi ei greu yn dda, ag yn hoff iawn o’r stori ag ysbrydoliaethtu ol i’m ngwaith.

Teimlais fel fy mod ar ben y byd pan ddois i allan o’r ystafell. Rhoddwyd hyder imi ag cadarnhad imi barhau i greu y gwaith rwyn ei fwynhau i’w greu. Rwyn ddiolchgar iawn am y cyfle a gefais yn Liberty i arddangos fy ngwaith.

Gwelir isod ar eu fideo cip olwg byr iawn ar ychydig o’m ngynnyrch a gyflwynais iddynt ar y diwrnod.

http://www.liberty.co.uk/best-of-british/article/fcp-content

Ar ol cyrraedd nol i Gymru fach, cefais gyfarfod gyda Merched y Wawr, Mynytho. Rhoddais gyflwyniad ar fy siwrna o astudio yn MMU yn Manceinion  i lle ydwi rwan wedi cychwyn busnes adref ar profiadau rwyf wedi cael ar hyd y ffordd sydd wedi dylanwadu ar fy ngwaith creadigol.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn iddynt am eu croeso cynnes ag am noson hwylus ( ag am yr holl tea a bisgedi )  Diolch i chi gyd am eich geiriau caredig am fy ngwaith.

2016-02-15 01.35.16

Yn ogystal a hyn rwyf hefyd wedi bod yn brysur yn gweithio ar gomisiwn i Ty Newydd, Llanystumdwy. Cefais fy newis i greu bwrdd coffi unigryw a oedd yn ymateb i gerddi Guto Dafydd a Gillian Clarke. Ceir mwy o hanes y prosiect hwn yn fuan gyda lluniau o’r broses o’i greu.