Telerau ag Amodau a Cyngor Gofal

Dylai Miriam Jones gael gwybod am unrhyw ddifrod i’r nwyddau drwy e-bost 3 diwrnod ar ôl i’r nwyddau gael eu hanfon.

Ni fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i’r nwyddau sydd wedi cael eu difrodi neu eu camddefnyddio. Caiff nwyddau eu gwneud fesul archeb.

Os caiff yr archeb ei chanslo, cyfrifoldeb y prynwr yw unrhyw golledion a gafwyd. Mae’r prisiau’n gywir ar gyfer dosbarthu, ac nid ydynt yn cynnwys costau postio / danfon. Gwneir pob ymdrech i gynhyrchu’r nwyddau ar amser / o fewn yr amser a ganiateir. Ni fydd Miriam Jones yn cymeryd unrhyw gyfrifoldeb am oediadau gyda archebion o ganlyniad i anaf, salwch, tywydd, offer wedi torri neu broblemau dosbarthu y daw cyflenwyr ar eu traws.

OFFER CEGIN

Ni ddylid rhoi’r offer yn y peiriant golchi llestri, dylid eu golchi â llaw yn unig. Mae pren yn ‘ddefnydd byw’, ac er mwyn ymestyn safon y cynnyrch, awgrymir trin yr offer cegin gyda olew hadau pabi, gan ei fod yn ddiogel gyda bwyd, yn fwytadwy a bydd yn helpu i estyn hyd oes y cynnyrch. Dros amser, po fwyaf bydd y weiren yn cael ei thrin, bydd yn gwisgo, a bydd y copr yn ymddangos o dan gôt. Mae hyn yn rhan o broses yr offer, gan bydd y pren hefyd yn cael marciau a chrafiadau wrth ei ddefnyddio. Mae gen i ddiddordeb yn y modd mae’r offer yn heneiddio gyda defnydd dros amser, a’r newidiadau y daw’r deunyddiau ar eu traws. Peidiwch a’u rhoi yn y meicrodon.

MWCLIS RHAFF

Mae’r mwclis wedi eu creu â llaw. Dros amser bydd yr edau yn llacio ac yn mynd yn frau a’r lliw yn newid. Hefyd gall y cotwm golli ei liw a blerio, mae’n rhan o’r broses wrth i’r mwclis cael eu defnyddio. Mae’r pren yn ddefnydd ‘byw’ ag fe wnaiff ymateb i’r amgylchedd. Cadwch y mwclis mewn lle sych. Byddwch yn ofalus rhag ei ollwng ar lawr oherwydd gall y pren gael tolc, a bydd unrhyw camddefnydd yn achosi difrod i’r mwclis. I arbed y pren dylid defnyddio cwyr pren.

POWLENNI

Mae’r powlenni wedi eu trin â cwyr ac awgrymir i barhau eu trin â chwyr er mwyn arbed arwyneb y pren. Gall yr edau lacio dros amser a datod. Os bydd unrhyw camddefnydd gall y pren gael tolc a/neu marciau arno. Bydd llwch yn casglu ar arwyneb y pren felly awgrymir i lanhau y llwch o dro i dro. Mae’r pren yn ddefnydd ‘byw’ felly fe all chwyddo a chracio mewn gwres wrth iddo ymateb i’r amglychedd.

POTIAU ADDURNIADOL

Mae’r potiau wedi cael eu trin â chwyr pren, ar gyfer sgleinio a thrin y coedyn. Awgrymir sgleinio’r pren gyda chwyr pren i ymestyn ei oes ac i amddiffyn ei wyneb a’i ansawdd. Cadwch o mewn lle oer a sych. Dros amser, mae’n bosib bydd yr edau yn gwisgo, yn llacio neu gall y lliw bylu. Mae pren yn ddefnydd byw a bydd yn ymateb i’r amgylchedd.

DALIWR GOLAU

Mae’r pren wedi ei drin â chwyr pren, ac ceir darn o lechen o dan y ‘tealight’ fel diogelwch er mwyn arbed y metel rhag boethi gormod a llosgi y pren. Gall yr edau lacio ac fe all y lliw bylu dros amser. Peidiwch a gadael y golau heb oruwchwyliaeth. Byddwch yn ofalus  lle byddwch yn rhoi y daliwr golau er mwyn osgoi tân. Gadewch i’r daliwr golau oeri cyn gafael ynddo. Cadwch y daliwr golau ddigon pell o blant bychain.

GEMWAITH

Mae pob eitem wedi cael ei wneud â llaw. Mae pren yn ddefnydd byw a bydd yn ymateb i’r amgylchedd. Er mwyn ymestyn ei ansawdd, awgrymir defnyddio cwyr i amddiffyn ei wyneb. Gellir defnyddio cwyr ar gyfer yr arian hefyd. Dros amser, mae’n bosib bydd y weiren yn llacio fel canlyniad o gael ei ddefnyddio neu bydd y lliw yn pylu. Bydd unrhyw gamddefnydd o’r cynnyrch yn arwain at ddifrod.

Awgrymir i chi gadw’r gemwaith yn y pecyn gwreiddiol. Nid yw’n addas i blant.