Posted on

Comisiwn bwrdd coffi Ty Newydd, LLanystumdwy

Yn ddiweddar cefais fy newis i greu bwrdd coffi unigryw ar gyfer llyfrgell Glyn Jones ynNhŷ Newydd, LLanystumdwy.

Canolfan Lenyddiaeth yw Tŷ Newydd bellach, ond bu hefyd yn gartref i’r Prif Weinidog adeg y rhyfel mawr, sef David Lloyd George. Yn ôl pob sôn, yn y llyfrgell yma treuliodd Lloyd George ei ddyddiau olaf yn edrych allan o’r ffenestr gron ar Fae Ceredigion.

Yn y brîff  roedd angen creu bwrdd boffi unigryw   oedd yn ymateb i gerddi Gillian Clarke ‘Tŷ Newydd’ a Guto Dafydd ‘Hiraeth am Dŷ Newydd’.

Yn fy syniad  buasai’r dyluniad yn cyfuno’r ddwy gerdd ac yn gweddu gyda’i leoliad. Mae’r ddwy gerdd yn disgrifio Tŷ Newydd fel lle arbennig i ysgrifennwyr, lle sydd yn galluogi’r geiriau lifo ar dudalen,  ble mae hanesion yn cael eu darganfod o fewn distawrwydd y muriau gwyn. Mae’n le all ysgrifennwyr uniaethu a’u  gilydd.

Bydd cwpledi o gerddi y ddau fardd yn cael eu ysgythru ar arwyneb pren a fydd yn cael ei fewn osod i arwyneb y bwrdd coffi i greu delwedd o eiriau`n llifo, neu siwrne wrth i gerdd Guto Dafydd sôn am deithio i Dŷ Newydd a Gillian Clarke drafod geiriau yn llifo a storiau yn cael eu darganfod. Bydd y preniau fel llif o gerddoriaeth neu lwybr sydd yn rhedeg ar draws canol y bwrdd.

Mae’r bwrdd wedi ei greu o bren Ffawydd, gan fod llawer o goed Ffawydd wedi eu plannu ar hyd y safle dan orchymun Lloyd George.

Rheswm arall dros ddefnyddio pren Ffawydd yw ei fod yn bren eithaf golau, a bydd yn symbylu adeilad Tŷ Newydd, tra bo`r disgiau gydag  ysgrifen arno wedi ei greu o bren coch Sapele, i symbylu calon ac  awyrgylch unigryw y lle sy’n treiddio drwy’r muriau ac enaid y sawl a fu yno.

Mae’r siap a ffurf y bwrdd wedi ei greu yn grwn i gyd fynd gyda’i leoliad yn y ffenestr grwn, ac mae’r edau lliw ‘Teal’ ar waelod y coesau yno i gyfeirio at liw nodweddiadol ffenestri’r  adeilad yn nyluniad Clough  Williams Ellis.

Hwn yw’r comisiwn mwyaf imi ei greu hyd yn hyn, ac mae wedi bod yr un mwyaf  heriol  iw greu, ond rwyf wedi mwynhau a dysgu llawer iawn o’r profiad.  Mae’n fraint cael creu dyluniad a fu’n rhan o hanes y tŷ am flynyddoedd i ddod.  Bum yn gweithio am gyfnod dros haf 2014 yn Amgueddfa Lloyd George, ac wedi dod i ddysgu llawer am y gwleidydd hynod yma.  Mae’n anodd credu bydd fy ngwaith yn cael ei osod yn yr un ystafell  y bu i  un o wleidyddion gorau Prydain yn eistedd yno`n edmygu`r olygfa drwy`r ffenestr .

Rwyn gobeithio y caiff ysgrifennwyr Tŷ Newydd  gymaint o  fwynhad drwy ddefnyddio’r bwrdd ac y gefais i o’i greu.  Nid oeddwn erioed wedi gweithio ar gynnyrch mor fawr o’r blaen ac fe ddysgais lawer wrth ei greu.  Roeddwn ddigon ffodus i gael cymorth fy Yncl sy’n saer coed o fri, gyda blynyddoedd o brofiad, i’m helpu i roi’r bwrdd at ei gilydd. Yn anffodus  nid oedd fy ngweithdy bychan gartref ddim digon mawr na`r offer priodol gennyf i berfformio rhai o’r prosesau. Rwy`n ddiolchgar iawn am gymorth a dderbynais gan fy Yncl. Wrth i’r bwrdd ddatblygu, roedd pwysau`r bwrdd yn trymhau!

Gwelir isod gerddi Gillian Clarke a Guto Dafydd, gyda lluniau o’r broses o greu y bwrdd yn dilyn.

Tŷ Newydd – Gillian Clarke

Before we came, the house was a shell

with the sea-winds in it. Sometimes now,

gathered in silence here at the table

under the beams, where long ago

hens clucked, and clogs and buckets clattered,

your pen might suddenly touch a wire

in your mind, and an image fire

the dark, and nothing has ever mattered

as much as this connection between mind

and pen, lines unreeling from your human hand,

your story found, and told, and heard,

started from silence by a single word,

the truth, word-music, the real thing.

Let it sing.

 

Hiraeth am Dŷ Newydd Guto Dafydd

Nos Fawrth yn gur pen o law,

weipars yn gwrthod ymlid y diflastod

a’r clociau ‘di troi’r flwyddyn yn wyll;

yr awen yn pydru fel  talp o hydref,

dail tamp yn blocio ‘mhen

a realiti’n glynu’n bowdwr yn fy ngwddf

nes methu llyncu:

 

af yno

i’r Tŷ Newydd yn fy enaid

at y rhai sy’n meddwl fel fi,

i gladdu gwleddoedd yn sŵn

symffonïau’n cyd-ddallt

a cherdded drwy goed tywyll

dan awyr amhosib o sêr.

 

Pan fydd galar yn brifo’n slei

fel pinnau mewn panad

cawn gamu I’r golau yn y muriau gwyn,

a gorffwys

yn llyfrgell ein profiad a’n dyheadau;

cadw gwylnos yng nghysgodion canhwyllau;

agor potel newydd toc ‘di tri

a thollti dealltwriaeth I wydrau’n gilydd;

meddyliau’n chware mig cyn cynganeddu.

Af yno yn fy enaid.

Af yno.