Posted on

Dechrau prysur iawn i 2016. Comisiwn, Liberty yn Llundain a cyfarfod gyda Merched y Wawr.

Yn ddiweddar cefais wahoddiad i gyflwyno fy ngwaith o flaen panel o arbennigwyr siop Liberty yn Llundain.

Roedd hi’n brofiad bythgofiadwy. Mae’r siop ei hun yn hynod ddiddorol ag unigryw. Buodd Mam a minnau yn ciwio am 7 awr cyn cael gweld un o’r arbennigwyr. Roedd dros 600 o ddylunwyr a crefftwyr yno ar y diwrnod. Buodd Mam a fi yn sgwrsho gyda llawer o grefftwyr dawnus yn y ciw i basho’r amser.

Pan ddaeth yr amser imi gyflwyno fy ngwaith, cymerais yn ganiataol na fuasai dim gobaith o blesho’r arbenigwyr gyda fy ngynnyrch. Roeddwn yn siarad fel tren, ag yn hollol ymwybodol o’r pedair munud yn gwibio heibio wrth imi drio egluro fy ngwaith, fy’n ysbrydoliaeth ag fy musnes i’r arbennigwyr.

Eisteddais yno yn parablu tra bu’r arbennigwyr yn stydio’r cynnyrch yn ofalus. Toeddwn ddim yn disgwyl clywed adborth mor bositif am fy ngwaith, gan ddweud ei fod yn brydferth ag wedi ei greu yn dda, ag yn hoff iawn o’r stori ag ysbrydoliaethtu ol i’m ngwaith.

Teimlais fel fy mod ar ben y byd pan ddois i allan o’r ystafell. Rhoddwyd hyder imi ag cadarnhad imi barhau i greu y gwaith rwyn ei fwynhau i’w greu. Rwyn ddiolchgar iawn am y cyfle a gefais yn Liberty i arddangos fy ngwaith.

Gwelir isod ar eu fideo cip olwg byr iawn ar ychydig o’m ngynnyrch a gyflwynais iddynt ar y diwrnod.

http://www.liberty.co.uk/best-of-british/article/fcp-content

Ar ol cyrraedd nol i Gymru fach, cefais gyfarfod gyda Merched y Wawr, Mynytho. Rhoddais gyflwyniad ar fy siwrna o astudio yn MMU yn Manceinion  i lle ydwi rwan wedi cychwyn busnes adref ar profiadau rwyf wedi cael ar hyd y ffordd sydd wedi dylanwadu ar fy ngwaith creadigol.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn iddynt am eu croeso cynnes ag am noson hwylus ( ag am yr holl tea a bisgedi )  Diolch i chi gyd am eich geiriau caredig am fy ngwaith.

2016-02-15 01.35.16

Yn ogystal a hyn rwyf hefyd wedi bod yn brysur yn gweithio ar gomisiwn i Ty Newydd, Llanystumdwy. Cefais fy newis i greu bwrdd coffi unigryw a oedd yn ymateb i gerddi Guto Dafydd a Gillian Clarke. Ceir mwy o hanes y prosiect hwn yn fuan gyda lluniau o’r broses o’i greu.