Posted on

Diolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth yn 2016! Edrych ymlaen yn ofnadwy i 2017

Diolch yn fawr iawn i bawb am eich cefnogaeth yn 2016, mae wedi bod yn flwyddyn hynod lwyddianus a chyffrous imi gyda llawer o uchafbwyntiau.

Dyma gasgliad o luniau yn dangos rhai o’r uchafbwyntiau yn 2016 ac ychydig o newyddion am beth sydd gennyf ar y gweill yn 2017.

 

Creu bwrdd coffi unigryw i Ty Newydd, Llanystumdwy. Roedd hwn yn sialens a hanner ond yn werth pob eiliad. Dysgais lawer o’r profiad ac `rwyf yn edrych ymlaen yn ofnadwy i weithio gyda Ty Newydd eto yn 2017 ar gomisiwn arall lle byddaf yn cyd weithio gyda Joe Roberts y Gof talentog ar gerflun mawr. Gwyliwch allan am fwy o hanes!

Tlysau di ri! Roedd llawr y gweithdy bach yn fôr o dlysau ym Mehefin ar gyfer Seremoni Wobrwyo Coleg Meirion Dwyfor. Roedd hi’n fraint cael y cyfle i greu 46 tlws arbennig iddynt, ac o sgil hyn fe wnes ambell dlws arall ar gyfer digwyddiadau chwaraeon lleol.

FFAIR GREFFTAU

Wedi bod wrthi “flat out”  efo amryw o ffeiriau yn 2016. Roeddwn ddigon ffodus i gael fy newis ar gyfer ffair grefftau mawr ‘Great Northern Contemporary Craft Fair’Manceinion , ‘Gwnaed a Llaw’ Caerdydd, ‘Ffair fwyd a chrefft’ Portmeirion ac hefyd arddangos yn yr Eisteddfod am y tro cyntaf.

Rwyf wedi mwynhau pob un ohonynt, er mor flinedig oeddwn ar eu holau! Roeddent yn llwyddiant mawr imi ac rwyf wedi creu llawer o ffrindiau newydd, cysylltiadau a chwsmeriaid newydd. Edrych mlaen yn barod i’w gwneud eto yn 2017!

Fel canlyniad o arddangos yn ‘Great Northern’ dwi bellach wedi fy newis i gael bod ar Cyfeiriadur Crefftwyr  ‘Craft Council’ UK. Dyma`r  linc ar gyfer fy nhudalen arno- http://www.craftscouncil.org.uk/directory/maker/miriam-jones/

Mae gennyf lawer o arddangosfeydd yn dod fynny yn 2017.

Y cyntaf o`r rhain fydd arddangosfa ‘GWADDOL’ gyda fy nghyn athrawes Gelf Elin Huws ym Mhlas Glyn y Weddw. Mi fyddaf yn creu gwaith newydd ar gyfer y sioe hwn fel gwrogaeth i’w gwaith. Dyma linc ar gyfer yr arddangosfa a manylion pellach am yr arddangosfa.- https://www.oriel.org.uk/en/events/2016/imprint

Dyma gip olwg ar yr hyn y byddaf yn ei greu ar gyfer yr arddangosfa-

 

Hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb ohonoch a gobeithio bydd 2017 yn un werth chweil!