Posted on

Edrych yn ol ar waith gradd /looking back on uni work #throwbackthursday

Wythnos yma dwi wedi bod yn helpu myfyrwyr  Coleg Meirion Dwyfor lle dwi’n gweithio fel technegydd rhan amser i greu llwyau metal. 

This week I have been assisting Coleg Meirion Dwyfor Students with their metal work. I work part time at the college and their project this week was to create a metal spoon.

Es i a rhain a wnes i yn fy ail flwyddyn ar cwrs gradd 3d design i ddangos iddynt fel engraifft.

  took the spoons I created in my second year of the 3D Design course to show as an example for them.

Mae’n rhyfedd edrych yn ol, gan mai bryd hynny doedd genai fawr ddim diddordeb mewn gwaith pren , a metal oedd pob dim.

It’s odd looking back at these spoons; at the time I didn’t have much interest in wood work and focused a lot more on metalwork.


 Rhyfedd sut mae pethau yn troi allan, ag hefyd sut bod elfenau o’r gwaith metal yma – sef y lapio weiren denau brass fel addurn wedi treuddio drwadd i’r gwaith dwi’n ei greu heddiw; edau lliw sydd bellach yn cael ei lapio fel addurn ar fy ngwaith.

It’s odd how things turn out, and also how some elements from these metal spoons have continued into my curret work; such as the binding of the brass wire on the larger spoon to add a decorative element. I now do this in my current work through binding coloured thread around the wood as a decorative element.

Mae’r ddau lwy yma wedi eu ysbrydoli gan symboliaeth llwyau caru Cymreig. Gwelir ddelwedd o dyfiant i symboleiddio ‘bod ein cariad yn tyfu’ ar ddau lwy yn eistedd efo’i gilydd i greu’r symboliaeth ‘ni’n dau yn dod yn un’.

Ella gai gyfle yn y dyfodol i gyfuno y sgiliau metal efo’r turnio pren! Aros a gweld fydd rhaid am y tro!

Gwelir isod mwy o lwyau a wnes yn ystod fy ngradd yn y flwyddyn olaf..gwelir y gwaith turnio yn dechra cael ei gynnwys efo’r gwaith metal. Adeg yma oni yn dechra disgyn mewn cariad gyda turnio pren..ag yn awyddus i ddysgu mwy.

Both these spoons have been inspired by the symbolism behind traditional Welsh love spoons. The imagery of growth symbolises that ‘our love is growing’ while the two spoon sit and fit together to symbolise ‘ we two become one’. 

Maybe in the future I’ll get a chance to revisit some of these metalworking skills to combine with my woodturning work. Wait and see! 

Pictured below are some more spoons I made during my final year of my degree. Woodturning is slowly being introduced with the metal work here. My love for woodturning was starting to grow here and I was eager to learn more.